Cofnodion cryno - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus


Lleoliad:

Lleoliad Allanol

Dyddiad: Dydd Llun, 12 Hydref 2015

Amser: 13.00 - 17.40
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/3439


Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe

Yn bresennol

Categori

Enwau

Aelodau’r Cynulliad:

Darren Millar AC (Cadeirydd)

Mike Hedges AC

Sandy Mewies AC

Julie Morgan AC

Jenny Rathbone AC

Aled Roberts AC

Andrew RT Davies AC (yn lle Mohammad Asghar (Oscar) AC)

Alun Ffred Jones AC (yn lle Jocelyn Davies AC)

Tystion:

Richard Anning, Cyn-aelod Bwrdd Cronfa Buddsodd Cymru mewn Adfywio

Richard Baker, Llywodraeth Cymru

Ceri Breeze, Cyn-aelod Bwrdd Cronfa Buddsodd Cymru mewn Adfywio

Owen Evans, Cyfarwyddwr, Sgiliau, Addysg Uwch a Dysgu Gydol Oes, Llywodraeth Cymru

Richard Harris, Cyn-aelod Bwrdd Cronfa Buddsodd Cymru mewn Adfywio

Chris Holley, Cyn-aelod Bwrdd Cronfa Buddsodd Cymru mewn Adfywio

John Howells, Llywodraeth Cymru

Staff y Pwyllgor:

Fay Buckle (Clerc)

Claire Griffiths (Dirprwy Glerc)

Joanest Varney-Jackson (Cynghorydd Cyfreithiol)

Alistair McQuaid (Swyddfa Archwilio Cymru)

Mike Usher (Swyddfa Archwilio Cymru)

Huw Vaughan Thomas (Swyddfa Archwilio Cymru)

Nick Tyldesley (Prisiwr Dosbarth)

 

<AI1>

1       Cronfa Buddsoddi Cymru mewn Adfywio: Sesiwn friffio gan Swyddfa Archwilio Cymru

1.1 Cafodd yr Aelodau sesiwn friffio gan Archwilydd Cyffredinol Cymru.

 

</AI1>

<AI2>

2       Cronfa Buddsoddi Cymru mewn Adfywio: Sesiwn friffio gyda Llywodraeth Cymru

2.1 Cafodd y Pwyllgor sesiwn friffio gan Lywodraeth Cymru a thrafodwyd cwmpas yr ymchwiliad.

 

</AI2>

<AI3>

Trawsgrifiad

Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod.

 

</AI3>

<AI4>

3       Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

3.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod. Dywedodd y Cadeirydd ei fod yn falch bod y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn gallu cymryd rhan yn yr wythnos #SeneddAbertawe ac estynnodd ddiolch i'r staff yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau am eu cymorth yn cynnal y cyfarfod.

3.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Mohammad Asghar. Dirprwyodd Andrew R T Davies ar ei ran.

3.3 Esgusododd Jocelyn Davies ei hun o dan Reol Sefydlog 18.8. Dirprwyodd Alun Ffred Jones ar ei rhan.

3.4 Gwnaeth yr Aelodau y datganiadau a ganlyn:

Darren Millar

Mae dwy lain o dir yn y portffolio yn ei etholaeth.

Alun Ffred Jones

Mae tir yn Fferm Goetre Uchaf, Bangor yn ei etholaeth.

Julie Morgan

Mae tir yn Llys-faen yn ei hetholaeth.

Jenny Rathbone

Cadeirydd y Pwyllgor Monitro Rhaglenni.

Andrew R T Davies

Sawl llain o dir yn ei ardal etholaethol.

Aled Roberts

Sawl llain o dir yn ei ardal etholaethol.

Yn adnabod y Cynghorydd Chris Holley a Ceri Breeze o'i rôl flaenorol yn Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Mike Hedges

Yn adnabod y Cynghorydd Chris Holley o'i rôl flaenorol yn Arweinydd Dinas a Sir Cyngor Abertawe.

 

 

</AI4>

<AI5>

4       Cronfa Buddsoddi Cymru mewn Adfywio: Sesiwn Dystiolaeth 1

4.1 Craffodd y Pwyllgor ar waith swyddogion Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol ar hyn o bryd am Gronfa Buddsoddi Cymru mewn Adfywio, gan holi Owen Evans, Dirprwy Ysgrifennydd Parhaol, y Grŵp Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus, John Howells, Cyfarwyddwr, Tai ac Adfywio, a Richard Baker, Cyd-bennaeth Dros Dro yr Adran Eiddo.

4.2 Cytunodd Owen Evans i anfon rhagor o wybodaeth am y canlynol:

·       Copi o'r adroddiad prisio a luniwyd ar gyfer Llywodraeth Cymru gan King Sturge (Jones Lang LaSalle erbyn hyn);

·       Sut y cafodd yr asedau a aeth i'r portffolio a drosglwyddwyd i Gronfa Buddsoddi Cymru mewn Adfywio eu dewis, ynghyd â manylion am unrhyw waith marchnata blaenorol gan Lywodraeth Cymru o ran yr asedau ym mhortffolio tir Cronfa Buddsoddi Cymru mewn Adfywio a chopi o gofnodion y cyfarfod lle cytunwyd ar y dewis yn y portffolio;

·       Yr ystyriaeth a roddir gan Lywodraeth Cymru i'r goblygiadau i Drysorlys y DU o ran refeniw treth yn y dyfodol wrth gytuno ar drafodion masnachol sydd ag endidau tramor;

·       Eglurhad o statws cyfreithiol cysylltiad a chontract Llywodraeth Cymru ag Amber Infrastructure Ltd (fel Aelod Partneriaeth Atebolrwydd Cyfyngedig arall, ac fel Rheolwr Cronfa Buddsoddi Cymru mewn Adfywio), a chyngor cyfreithiol Llywodraeth Cymru ar effaith bosibl unrhyw benderfyniad a wneir gan Lywodraeth Cymru i ddod â'r contract i ben.

 

 

</AI5>

<AI6>

5       Cronfa Buddsoddi Cymru mewn Adfywio: Sesiwn Dystiolaeth 2

5.1 Craffodd y Pwyllgor ar waith pedwar cyn-aelod o Fwrdd Cronfa Buddsoddi Cymru mewn Adfywio a benodwyd i'r Bwrdd gan Lywodraeth Cymru. Holwyd y canlynol:

·       Ceri Breeze: Aelod o'r Bwrdd ers mis Mawrth 2010. Penodwyd yn Gadeirydd ym mis Hydref 2011. Ymddiswyddodd ym mis Hydref 2013;

·       Richard Anning:Aelod o'r Bwrdd ers mis Rhagfyr 2010. Ymddiswyddodd ym mis Hydref 2013;

·       Y Cynghorydd Christopher Holley: Aelod o'r Bwrdd ers mis Tachwedd 2010. Ymddiswyddodd ym mis Hydref 2013; a

·       Richard Harries: Aelod o'r Bwrdd ers mis Gorffennaf 2012. Ymddiswyddodd ym mis Mehefin 2013.

 

5.2 Nododd y Cadeirydd fod Jonathan Geen, cyn-aelod o Fwrdd Cronfa Buddsoddi Cymru mewn Adfywio, wedi gwrthod y gwahoddiad i ddod i'r sesiwn hon oherwydd gwrthdaro buddiannau.

5.3 Cytunodd cyn-aelodau o Fwrdd Cronfa Buddsoddi Cymru mewn Adfywio i adolygu ac anfon unrhyw sylwadau a allai fod ganddynt ar brisiadau'r farchnad gan Savills (Ionawr 2012) ac adroddiad y Prisiwr Dosbarth ym mis Gorffennaf 2015.

 

</AI6>

<AI7>

6       Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y busnes canlynol:

6.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

</AI7>

<AI8>

7       Cronfa Buddsoddi Cymru mewn Adfywio: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law

7.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a ddaeth i law.

 

</AI8>

<TRAILER_SECTION>

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.1FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.2FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>